Cynnydd a digwyddiadau

9fed o Fedi 2016 - Gweithdy Deiliaid Diddordeb

Cynhaliwyd ein gweithdy deiliaid diddordeb gyntaf ym Mhrifysgol Bangor. Defnyddiwyd dull newydd o fewn cyd-destun ymchwil gan Yr Athro Chris Burton wrth greu modelau cysyniadol gan ddefnyddio LEGO Serious Play. Gofynnwyd i'n cyfranogwyr dylunio modelau LEGO i gyfleu eu syniadau o rinweddau rheolwyr nyrsys da. Wedyn gofynnwyd i'r deiliaid diddordeb creu modelau o'r system o gynllunio gweithlu nyrsys a threfnu staff. Cyfunwyd elfennau pwysig o bob model unigol i greu un model cydweithredol cyflawn o gynllunio a threfnu gweithlu nyrsys. Mi fydd y wybodaeth yma yn cyfrannu at y datblygiad o theorïau ar gyfer ein synthesis realaidd o'r dystiolaeth.

16eg o Fedi 2016 - Gweithdy Cleifion â'r Cyhoedd

Cafodd cleifion ac aelodau o'r cyhoedd eu tro efo LEGO Serious Play, tro yma adeiladwyd ar eu modelau cychwynnol o reolwyr nyrsys da i greu model cydweithredol i gyfleu syniadau'r grŵp.

27ain o Fedi 2016 - Gweithdy Datblygu'r Rhaglen

Gwnaeth y tîm cwrdd yn Nhŷ Menai i drafod theorïau cychwynnol gan ystyried y wybodaeth â mewnbwn a chasglwyd yn ystod ein day gweithdy gyntaf.

13eg o Hydref 2016 - Gweithdy Deiliaid Diddordeb

Cynhaliwyd ein hail weithdy ar gyfer deiliaid diddordeb yn y Radisson Blu ym Mirmingham, ac unwaith eto defnyddiwyd LEGO Serious Play. Derbyniwyd mewnbwn defnyddiol iawn gan fodelau ein cyfranogwyr, modelau o reolwyr nyrsys da a modelau o gynllunio a threfnu gweithlu nyrsys.

8fed o Dachwedd 2016 - Cyfarfod y Grŵp Ymgynghorol

Gwnaeth arweinwyr strategol allweddol yn y maes cynllunio gweithlu nyrsys dod ynghyd i ffurfio ein Grŵp Ymgynghorol i helpu arwain cyfeiriad ein hastudiaeth.