Ein Project
Mae'r project hwn yn edrych ar ddefnydd rheolwyr o dechnolegau cynllunio'r gweithlu ac adleoli a'u heffaith ar ofal nyrsio. Mae'r technolegau hyn yn rhagweld y niferoedd a chyfuniad y staff nyrsio priodol i sicrhau diogelwch a gofal cleifion o ansawdd uchel.
Mae gweithredu technolegau o'r fath yn dibynnu ar allu'r rheolwyr ynghyd â'u gwybodaeth am yr ardal; mae strwythurau sefydliadol a'r adnoddau nyrsio sydd ar gael hefyd yn ffactorau pwysig. Bydd canfyddiadau'r adolygiad yn dod â thystiolaeth a damcaniaeth at ei gilydd i ddangos sut y gall rheolwyr GIG gael yr effaith mwyaf posib wrth weithredu systemau a thechnolegau cynllunio'r gweithlu. Bydd y canfyddiadau hefyd yn nodi ac yn esbonio pa agweddau penodol o ddulliau cynllunio'r gweithlu sy'n fwy tebygol o hyrwyddo gofal o ansawdd uchel i gleifion.
Bydd yr astudiaeth yn defnyddio methodoleg adolygu realaidd; dull newydd o syntheseiddio tystiolaeth ar ymyriadau cymhleth i lywio ymarfer a pholisi clinigol.
Bydd yr astudiaeth wedi ei chwblhau yn ystod 2017.
Ceir rhagor o fanylion am yr astudiaeth yma.