Amcanion yr Astudiaeth

Bydd ein hastudiaeth yn mynd i'r afael â'r cwestiwn adolygu a'r amcanion canlynol:

Defnydd rheolwyr y GIG o dechnolegau cynllunio'r gweithlu a'u rhoi ar waith, a'u heffaith ar staffio nyrsys a gofal cleifion: beth sy'n gweithio, i bwy, sut a than ba amgylchiadau?

Y prif amcanion:

  1. Adnabod gwahanol dechnolegau cynllunio'r gweithlu y gellid eu defnyddio gyda gweithlu nyrsio'r GIG, gan roi sylw i'r ffyrdd y maent yn cael eu cymryd yn ganiataol ac yn cael eu gweld yn llwyddo.
  2. Ymchwilio i'r amrywiaeth eang o effeithiau'r technolegau hyn mewn lleoliadau gofal iechyd gwahanol, yn ogystal â gwasanaethau cyhoeddus eraill fel gwaith cymdeithasol a phlismona, gan roi sylw i ddylanwadau cyd-destunol.
  3. Ymchwilio i ffyrdd a allai helpu rheolwyr y GIG nodi, defnyddio a gwerthuso adnoddau cynllunio'r gweithlu nyrsio i gael yr effaith fwyaf ar ofal cleifion uniongyrchol.
  4. Cynhyrchu argymhellion y gellir eu gweithredu ar gyfer arfer rheoli a strategaeth sefydliadol.
  5. Cyfrannu at y ddadl gyhoeddus ehangach am natur y gweithlu nyrsio, gwaith nyrsio, ac ansawdd y gofal i gleifion, a bod â dealltwriaeth ohonynt.