Cefndir

Mae cyfrifoldeb ar sefydliadau gofal iechyd i sicrhau bod staffio nyrsys yn ddigonol i roi gofal diogel ac o ansawdd uchel i gleifion. Ond mae cysylltiadau wedi'i gwneud rhwng lefel staffio nyrsys uwch a rhai materion diogelwch cleifion fel codymau, camgymeriadau gyda meddyginiaeth a gofal nyrsio a fethwyd  (Griffiths et al ., 2014).

Mae nifer sylweddol o dechnolegau cynllunio'r gweithlu ar gael i reolwyr nyrsio i bennu gofynion staffio. Er bod cynnydd wedi'i wneud o ran datblygu technolegau gwneud penderfyniadau am weithlu nyrsio, mae'n ofynnol gwella'u cywirdeb fel sail i ddyrannu adnoddau. Nid yw'n glir ychwaith sut mae technolegau a phrosesau'n rhoi ystyriaeth i ffactorau ar draws grwpiau cleifion, grwpiau staff a systemau sefydliadol. Ychydig o sylw sydd wedi ei roi i gefnogi'r broses o roi technolegau cynllunio'r gweithlu nyrsio ar waith mewn gwahanol gyd-destunau rheolaeth glinigol.

Bydd yr astudiaeth hon yn ymchwilio i sut mae technolegau cynllunio'r gweithlu'n gweithio, sut maent yn cael eu rhoi ar waith ar draws gwahanol sefydliadau, a bydd yn cynnig esboniadau o sut mae nodweddion penodol yn fwy tebygol o hyrwyddo gofal o ansawdd uchel i gleifion. Bydd yr adolygiad hwn yn mynd i'r afael â bylchau mewn gwybodaeth bresennol ar systemau a thechnolegau cynllunio'r gweithlu trwy nodi sut y gall staffio nyrsys ymateb i anghenion lleol a phatrymau gwaith, yn ogystal â chanolbwyntio ar fewnbwn nyrsio o safon sy'n cyfateb i anghenion cleifion ar adegau penodol.

Mae gennym ddiddordeb arbennig yn yr hyn sy'n gweithio o ran technolegau cynllunio'r gweithlu, i bwy, ac ym mha amgylchiadau, er mwyn rhoi arweiniad i reolwyr nyrsio a rheolwyr y gweithlu wrth wneud penderfyniadau ymarferol am staffio nyrsys, diogelwch cleifion, ac ansawdd.