Y Dull Adolygu

Bydd dull synthesis realaidd yn cael ei ddefnyddio oherwydd bydd gweithredu a defnyddio adnoddau cynllunio'r gweithlu nyrsio, a'u heffeithiau, yn gymhleth ac yn ddibynnol ar y cyd-destun. Bydd adolygiad realaidd yn hwyluso dealltwriaeth o sut y gallai gwahanol ddulliau weithio mewn gwahanol leoliadau ac arwain at effeithiau penodol. Mae dulliau synthesis realaidd yn datblygu (Wong et al., 2013), e.e. trwy waith aelodau'r tîm hwn (Rycroft-Malone et al., 2012), ac yn cynnig y potensial i ymchwilio i faterion cymhleth, megis rhoi technolegau cynllunio'r gweithlu ar waith. Bydd adolygiad realaidd yn arwain at ddatganiadau esboniadol am yr hyn sy'n gweithio, i bwy, sut a pham, ac yn creu'r potensial o gael atebion ymarferol i heriau allai godi wrth roi technolegau cynllunio'r gweithlu ar waith.

Bydd ein hadolygiad realaidd yn cael ei gynnal mewn pedwar cam dros 18 mis a bydd budd-ddeiliaid wedi eu cynnwys drwy gydol yr adolygiad:

Cam 1: Damcaniaeth a datblygu rhaglen
Cam 2: Adfer, adolygu a synthesis
Cam 3: Profi a mireinio damcaniaethau'r rhaglen
Cam 4: Argymhellion y gellir eu gweithredu a chasglu gwybodaeth