Gwybodaeth amdanom ni

Mae'r Ysgol Gwyddorau Gofal Iechyd yn arwain ar yr astudiaeth ymchwil bwysig hon a gyllidir gan Raglen Cyflenwi Gwasanaethau'r Sefydliad Cenedlaethol er Ymchwil Iechyd. Mae ein hastudiaeth yn canolbwyntio ar dechnolegau cynllunio'r gweithlu a'u heffaith ar staffio nyrsys a gofal cleifion. 

Yr Athro Christopher Burton sy'n arwain y tîm ymchwil. Yr Athro Jo Rycroft-Malone, Dr Lynne Williams a Dr Beth Hall yw'r cyd-ymchwilwyr o Brifysgol Bangor. Mae Dr Anne McBride o brifysgol Manceinion a Mrs Ann-Marie Rowlands o Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr hefyd yn gyd-ymchwilwyr.